11 Dec 2025
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn lansio ei ymgyrch '12 Diwrnod o Negeseuon Diogelwch Nadolig' er mwyn rhannu negeseuon Nadoligaidd a chyngor diogelwch hanfodol ym mis Rhagfyr – wedi’u cyflwyno gan #GwiweryGwasanaeth.
Wrth i'r Nadolig nesáu, gall y nosweithiau oerach a’r costau ynni uwch olygu bod mwy a mwy o aelwydydd yn defnyddio gwresogwyr cludadwy, canhwyllau, a goleuadau addurniadol. Ac er bod y rhain yn cynhesu ac yn disgleirio, maen nhw hefyd yn cynyddu'r risg o danau ac o ddamweiniau. Mae GTACGC eisiau helpu teuluoedd i gael Nadolig diogel a dedwydd.
Gan ddechrau ddydd Gwener, 12 Rhagfyr, bydd #GwiweryGwasanaeth yn rhannu 12 awgrym diogelwch hanfodol ar Facebook ac Instagram ar lawer o themâu, gan gynnwys:
Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Corfforaethol Risg Gymunedol:
"Rydyn ni’n gwybod bod teuluoedd ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru’n paratoi ar gyfer prysurdeb a hwyl y Nadolig, ond hawdd anghofio hanfodion diogelwch yn y cartref pan fyddwch chi’n ymlacio gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Rydym yn gobeithio bod defnyddio #GwiweryGwasanaeth i rannu ein negeseuon yn ffordd hwyliog ac ysgafn o sicrhau nad yw diogelwch yn cael ei anghofio.
"Daw peryglon eraill yn gwmni i’r gaeaf hefyd, gan gynnwys tymheredd rhynllyd a ffyrdd rhewllyd. Mae GTACGC yn annog pawb i sicrhau bod eu larymau mwg yn gweithio, eu hoffer gwresogi yn cael gwasanaeth a bod cerbydau mewn cyflwr da i’w gyrru. Mae archwiliadau Diogel ac Iach am ddim ar gael i roi cyngor a gosod larymau mwg am ddim."
Dywedodd Steven Davies, Pennaeth Diogelwch Cymunedol:
"Mae camau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr – boed yn lanhau simneiau neu wirio larymau. Mae ein tîm ni yma i’ch helpu, ac mae ein gwiriadau diogelwch cartref rhad ac am ddim yn ffordd wych o baratoi ar gyfer y gaeaf."
Ymunwch yn hwyl ein Cystadleuaeth Lliwio Nadoligaidd!
Rhaid danfon eich lluniau erbyn dydd Llun, 22 Rhagfyr, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Facebook ddydd Mercher, 24 Rhagfyr.
- Y Nadolig gyda'r #GwiwerYGwasanaeth
Mae ein gwefan yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am ddiogelwch tymhorol hefyd! Cadwch mewn cysylltiad a dilynwch ni i gael diweddariadau dyddiol ac awgrymiadau diogelwch:
Facebook - @mawwfire
Instagram - @mawwfire_rescue
Mae #GwiweryGwasanaeth eisiau eich amddiffyn chi a’ch teulu dros y Nadolig!
Rachel Kestin
Communications, Engagement and Consultation Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226893
r.kestin@mawwfire.gov.uk