08 Feb 2024
Mae'r gwaith o osod diffibrilwyr cyhoeddus (PAD) newydd mewn 23 o Orsafoedd Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) bellach wedi'i gwblhau – ac mae hyn nawr yn golygu bod pob un o'n gorsafoedd tân wedi'u lleoli o fewn 500 metr i ddiffibriliwr cyhoeddus.
Gwnaed hyn yn bosibl trwy bartneriaeth gydag Achub Bywyd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a nododd 23 o Orsafoedd Tân GTACGC nad oeddent yn agos at ddiffibriliwr cyhoeddus.
Lansiwyd y bartneriaeth yn swyddogol yn Niwrnod Agored Pencadlys GTACGC ym mis Medi 2023, drwy ddadorchuddio'r uned gyntaf a ariannwyd drwy'r bartneriaeth yng Ngorsaf Dân Caerfyrddin.
Yn ogystal â chynyddu nifer y diffibrilwyr cyhoeddus ledled Cymru, mae Achub Bywyd Cymru wedi bod yn darparu sesiynau i ymgyfarwyddo ac addysgu cymunedau ynghylch adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio diffibriliwr cyhoeddus.
Gall ataliad sydyn ar y galon ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw oedran, a phob blwyddyn yng Nghymru mae dros 6,000 o bobl yn dioddef ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Bydd y siawns o oroesi yn gostwng 10% gyda phob munud sy’n mynd heibio os na fydd rhywun yn rhoi cynnig ar CPR neu’n defnyddio diffibriliwr. Ar hyn o bryd dim ond tua 30-40% o bobl sy’n dioddef ataliad ar y galon yn y gymuned fydd yn cael CPR gan wylwyr.
Wrth siarad yn lansiad y bartneriaeth, dywedodd Prif Swyddog Tân GTACGC, Roger Thomas:
“Mae Gorsafoedd Tân GTACGC yn cael eu cydnabod fel tirnodau cymunedol ac maent wedi’u lleoli’n strategol ledled ein cymunedau. Rwy’n falch iawn bod y bartneriaeth newydd hon yn golygu y bydd gan nifer cynyddol o’n Gorsafoedd Tân fynediad 24 awr i ddiffibrilwyr cyhoeddus a fydd yn gwella canlyniadau cleifion yn fawr os cânt ataliad ar y galon.”
Meddai'r Athro Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru:
“Rwy’n falch iawn bod Achub Bywyd Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn parhau â’u partneriaeth â GTACGC drwy roi mynediad 24/7 gwell i gymunedau’r rhanbarth at ddiffibrilwyr a all achub bywydau. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amserol, gan fod mis Chwefror hefyd yn cael ei adnabod fel Defibuary – mis cyfan i ganolbwyntio ar annog pobl i ddod yn ymwybodol o ddiffibrilwyr fel y gellir achub mwy o fywydau os bydd ataliad ar y galon yn digwydd.
“Mae Cydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru yng Ngorllewin Cymru, Marc Gower, yn parhau i weithio gyda GTACGC a chymunedau ar draws y rhanbarth i gydlynu a rheoli mwy o waith gosod diffibrilwyr. Bydd yn cefnogi’r broses o gofrestru diffibrilwyr ar The Circuit – y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol – i sicrhau bod diffibrilwyr yn hysbys ac ar gael i’r rhai sy’n derbyn galwadau brys 999, er mwyn helpu i achub mwy o fywydau.”
Dywedodd Carl Powell, Arweinydd Clinigol Gofal Acíwt:
“Gall ataliad ar y galon ddigwydd i unrhyw un, unrhyw le, ar unrhyw adeg ac mae mynediad cyhoeddus i ddiffibrilwyr ynghyd ag adfywio cardio-pwlmonaidd yn hanfodol yn y gadwyn oroesi.
Mae gosod diffibrilwyr mewn gorsafoedd tân yn parhau â'r ymrwymiad i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, oherwydd dangoswyd bod cynyddu nifer y diffibrilwyr yn y gymuned yn gwella siawns person o oroesi ar ôl dioddef ataliad ar y galon, felly mae’r diolch yn fawr i Wasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin am y fenter hon.
Mae diffibrilwyr yn hawdd i’w defnyddio ac wedi'u cynllunio i gael eu defnyddio gan unrhyw un. Byddem yn annog cofrestru pob diffibriliwr cyhoeddus ar The Circuit, cronfa ddata rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol a ddarperir gan Sefydliad Prydeinig y Galon.
Os nad yw dyfais wedi’i chofrestru, ni fydd ein derbynwyr galwadau brys 999 yn gwybod a oes diffibriliwr gerllaw ac ar gael ar gyfer argyfwng.”
Defibuary
Daw’r broses o gyflwyno diffibrilwyr cyhoeddus newydd yng Ngorsafoedd Tân GTACGC wrth i WAST lansio ei hymgyrch ‘Defibuary’ flynyddol, mis o hyd, sydd wedi’i chynllunio i addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd CPR a diffibrilio.
Mae diffibrilwyr yn syml ac yn ddiogel i'w defnyddio, ac nid oes angen unrhyw hyfforddiant blaenorol i weithredu un. Unwaith y bydd wedi'i roi ar waith, bydd yn dweud wrthych yn union beth i'w wneud a phryd a sut i roi sioc ddiogel. Pan fyddwch chi'n ffonio 999, bydd derbynnydd yr alwad yn dweud wrthych ble mae'r diffibriliwr cofrestredig agosaf ac yn rhoi cod ichi i agor y cabinet os oes angen.
Ataliad ar y galon yw pan fydd calon rhywun yn stopio pwmpio gwaed o amgylch eu corff ac maen nhw’n rhoi'r gorau i anadlu'n normal, tra bod trawiad ar y galon yn digwydd pan fydd un o'r rhydwelïau coronaidd yn cael ei blocio, yna ni fydd y cyflenwad gwaed hanfodol yn gallu cyrraedd cyhyr y galon ac os na chaiff ei drin bydd yn dechrau marw oherwydd diffyg ocsigen. Dysgwch fwy am y gwahaniaethau rhwng trawiad ar y galon ac ataliad ar y galon ar wefan Sefydliad Prydeinig y Galon.
Mae trawiad ar y galon ac ataliad ar y galon ill dau yn sefyllfaoedd brys - ffoniwch 999 ar unwaith bob tro.
Y bartneriaeth yn cael ei lansio yn Niwrnod Agored Pencadlys GTACGC ym mis Medi 2023.
Aelodau criw Gorsaf Dân Aberystwyth gyda PAD newydd yr Orsaf.
Steffan John
Communications Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226853
07805330632
steffan.john@mawwfire.gov.uk
Y 23 Gorsaf Dân sydd wedi cael diffibriliwr cyhoeddus cymunedol newydd drwy'r bartneriaeth yw:
Y Drenewydd, Machynlleth, Trefaldwyn, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Tref-y-clawdd, Aberhonddu, Abercraf, Crucywel, Llanfair ym Muallt, Llanwrtyd, Y Gelli Gandryll, Aberystwyth, Aberteifi, Crymych, Gorllewin Abertawe, Castell-nedd, Blaendulais, Pontardawe, Caerfyrddin, Pontiets , Llandeilo a Hendy-gwyn ar Daf.
Y pum Gorsaf Dân oedd eisoes â diffibriliwr cyhoeddus cymunedol oedd:
Rhaeadr, Gorseinon, Reynoldston, Llanelli a Chastell Newydd Emlyn