Mid & W Wales Fire News

21 Jul 2025

Digwyddiad Golchi Ceir Elusennol Gorsaf Dân Crymych yn Codi £1,500

Crymych Fire Station Car Wash Event Raises £1,500 for Charity

Digwyddiad Golchi Ceir Elusennol Gorsaf Dân Crymych yn Codi £1,500: 20250716 063441000 iOS-2

Ddydd Sadwrn 28 Mehefin, cynhaliodd Gorsaf Dân Crymych ddigwyddiad golchi ceir elusennol llwyddiannus, gan godi’r swm trawiadol o £1,500 i gefnogi tri achos gwych: Elusen y Diffoddwyr Tân, Ambiwlans Awyr Cymru a Jig-So.

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth wych gan y gymuned leol, gyda ffrindiau, teuluoedd a thrigolion yn dod i gael glanhau eu cerbydau ar gyfer yr achos pwysig hwn.

Hoffwn ddiolch o galon i bawb a ddaeth i gefnogi ac a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad hwn.

Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth, a bydd eich cyfraniadau’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.

20250716 063443000 iOS 3-2
2c909687-1721-4b9e-887e-f82b96da5cc6-2

Gwybodaeth Cyswllt

Emma Dyer
Mid and West Wales Fire and Rescue Service
e.dyer@mawwfire.gov.uk