25 Jun 2026
Bydd Diffoddwyr Tân Gorsaf Dân Talgarth yn cynnal Golchfa Ceir Elusennol ddydd Sadwrn, Gorffennaf 4ydd, i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân.
Cynhelir y digwyddiad ym Maes Parcio Talgarth o 10yb hyd at 1yp, lle bydd aelodau'r criw yn golchi cerbydau i godi arian ar gyfer gwaith parhaus yr elusen i ddarparu cefnogaeth arbenigol, gydol oes i staff sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol o gymuned y Gwasanaethau Tân ac Achub, a'u teuluoedd.
Lleoliad y Digwyddiad: Maes Parcio Talgarth, Talgarth, LD3 0PE
Press Officer
Mid and West Wales Fire and Rescue Service
01267 226823
pressofficer@mawwfire.gov.uk
Oriau'r Swyddfa'r Wasg yw 9yb-5yp, dydd Llun i ddydd Gwener.
Gwefan: www.tancgc.gov.uk
The Press Office hours are 9am-5pm, Monday to Friday.
Website: www.mawwfire.gov.uk