12 Dec 2025
Ynghyd ag aelodau o'r gymuned leol a staff y Gwasanaeth Tân, roedd y noson yn cynnwys carolau, darlleniadau a danteithion Nadoligaidd, gan ddod â phawb at ei gilydd i ddathlu'r Ŵyl.
Roedd elw’r noson yn cefnogi dwy elusen hanfodol – Elusen y Diffoddwyr Tân ac Ymchwil Canser Cymru. Bydd yr holl elw yn mynd yn uniongyrchol tuag at gefnogi'r gwaith amhrisiadwy y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud.
Cododd y digwyddiad gyfanswm o £597, a fydd yn cael ei rannu rhwng y ddwy elusen.
Hoffem estyn ein diolch diffuant i gynulleidfa Capel Bedyddwyr Ebeneser am eu caredigrwydd i gynnal y digwyddiad, ac i bawb a gyfrannodd eu hamser, eu cefnogaeth a'u haelioni i helpu i wneud y noson yn gymaint o lwyddiant.
Emma Dyer
Mid and West Wales Fire and Rescue Service
e.dyer@mawwfire.gov.uk