Mid & W Wales Fire News

01 May 2026

Hafanau Diogel wedi'u Hail-lansio ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru

Safe Havens Relaunched Across Mid and West Wales

Hafanau Diogel wedi'u Hail-lansio ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru: Hafanau Diogel

Mae pob gorsaf ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi'u dynodi’n Hafanau Diogel, gan ddarparu man diogel i aelodau'r cyhoedd sy'n teimlo mewn perygl, dan fygythiad neu wedi’u dychryn. 

GTACGC Hafanau Diogel

Gall unrhyw un sy'n teimlo eu bod mewn perygl uniongyrchol neu’n agored i niwed fynd i’w gorsaf agosaf, lle mae ein staff wedi'u hyfforddi ac yn barod i roi cymorth.

Dywedodd yr Arweinydd Diogelu, Jay Crouch: 

"Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd ddefnyddio'r Hafanau Diogel yn un o'n 58 o Orsafoedd Tân os ydyn nhw'n teimlo mewn perygl mewn unrhyw sefyllfa." 

Mae staff GTACGC yma i gefnogi unigolion a chymunedau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner, gan gynnwys Byw Heb Ofn, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu De Cymru, er mwyn sicrhau ymateb cyflym a phriodol pan fo angen. 

Ers ei chyflwyno yn 2021, mae'r fenter Hafanau Diogel wedi bod yn ymrwymiad parhaus i gefnogi aelodau o'r gymuned mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau, gan gynnwys y sawl sy'n profi cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl, neu fathau eraill o fod yn agored i niwed. 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu ei gymunedau, gan sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi. 

Rydyn ni yma i chi. 

Gwybodaeth Cyswllt

Lily Evans
Digital Marketing Officer
Mid and West Wales Fire and Rescue Service
lily.evans@mawwfire.gov.uk