14 Oct 2025
Cyflwynodd y swyddogion a oedd yn ymweld gyflwyniadau craff ar eu Hathrawiaethau Tactegol, gan gynnig safbwyntiau gwerthfawr yn seiliedig ar brofiad ac ymchwil fyd-eang. Roedd y sesiwn yn archwilio themâu gweithredol allweddol gan gynnwys strategaethau, tactegau, tasgau, technegau, ac Egwyddorion Sylfaenol Diffodd Tân yr Iseldiroedd, gan feithrin cyfnewid cyfoethog o ran syniadau ac arferion gorau.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Craig Flannery;
"Fel rhan o'n hymrwymiad Cymru Gyfan i dactegau gweithredol sy’n esblygu, mae wedi bod yn wych croesawu ein cydweithwyr o'r Iseldiroedd ac Awstralia a chlywed yn uniongyrchol am eu dulliau o diffodd tân tactegol a'r manteision y maen nhw’n eu cynnig. Wrth i ni edrych y tu hwnt i'n ffiniau traddodiadol er mwyn cynyddu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r ymchwil ddiweddaraf a'r dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth fel rhan o'n hathrawiaeth diffodd tân - athrawiaeth a fydd nid yn unig o fudd i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu ond hefyd yn cadw ein diffoddwyr tân yn fwy diogel ac effeithiol".
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cydnabod pwysigrwydd dysgu o arferion gorau rhyngwladol ar gyfer gwella hyfforddiant ac effeithiolrwydd rheng flaen. Mae'r Gwasanaeth yn diolch yn ddiffuant i'r ddau grŵp o gynrychiolwyr am eu hamser a'r mewnwelediadau amhrisiadwy a rannwyd ganddynt.
Emma Dyer
Mid and West Wales Fire and Rescue Service
e.dyer@mawwfire.gov.uk