Mid & W Wales Fire News

08 Sep 2026

Sesiynau Profi Blancedi Trydan Am Ddim

Free Electric Blanket Testing Sessions

Sesiynau Profi Blancedi Trydan Am Ddim: Electric Blanket Testing Banner-2

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cynnig sesiynau profi blancedi trydan am ddim mewn sawl Gorsaf Dân ledled Powys ym mis Hydref eleni.

Wrth i’r hydref droi’n aeaf, bydd llawer o aelwydydd yn cymryd blancedi trydan allan o’u cypyrddau i helpu i leihau costau gwresogi.  Er y gall blancedi trydan fod yn ffordd wych, gost-effeithiol o gadw’n gynnes, mae’n bwysig eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac mewn cyflwr da.

Er mwyn cefnogi preswylwyr, bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol GTACGC yn cynnal gwiriadau diogelwch ar flancedi trydan am ddim, gan archwilio blancedi am ddiffygion posibl ac arwyddion o draul a allai gynyddu’r risg o dân.

Yn ystod y sesiynau profi, byddwn yn edrych ar y blancedi trydan i chwilio am:
  • Ffabrig wedi rhwygo neu wedi gwisgo
  • Marciau llosgi neu arwyddion o orboethi
  • Gwifrau agored neu weladwy
  • Rheolyddion, plygiau neu gysylltwyr wedi’u difrodi
  • Traul cyffredinol a allai olygu nad yw’n gweithio’n ddiogel

Bydd aelodau’r Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd ar gael i roi cyngor ymarferol ar atal tân a diogelwch tân yn y cartref, gan helpu preswylwyr i leihau risgiau ac aros yn ddiogel trwy gydol misoedd y gaeaf.

Sesiynau yng Ngorsafoedd Tân Powys:
  • Gorsaf Dân Llandrindod – 10am-1pm ddydd Llun, Hydref 5ed
  • Gorsaf Dân Llanfyllin – 10am-1pm ddydd Llun, Hydref 5ed
  • Gorsaf Dân y Drenewydd – 9am-12pm ddydd Mercher, Hydref 7fed
  • Gorsaf Dân y Trallwng – 2-4pm ddydd Mercher, Hydref 7fed
  • Gorsaf Dân Aberhonddu – 10am-1pm ddydd Iau, Hydref 15fed

Gwybodaeth Cyswllt

Steffan John
Communications Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226853
07805330632
steffan.john@mawwfire.gov.uk