13 Nov 2023
Yr wythnos hon mae Wythnos Diogelwch Trydanol 2023 yn dechrau. Mae trydan yn rhan o'n bywydau: rydyn ni'n ei ddefnyddio o'r eiliad rydyn ni'n deffro, trwy'r dydd, a hyd yn oed pan fyddwn ni'n cysgu.
Wrth sicrhau bod yr offer trydanol rydyn ni'n ymddiried ynddynt mewn cyflwr da ac yn gweithio'n iawn, gallwn ni wneud iddyn nhw bara cyhyd ag y bo modd, arbed arian a chadw pawb yn ddiogel. Gyda'r gaeaf yn agosáu a'n biliau ynni'n cynyddu, rydyn ni'n eich annog chi i fanteisio ar y gofrestr offer am ddim yma: Home - Register My Appliance (gwefan Saesneg). Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn eich hysbysu os oes atgyweiriad diogelwch ar eich cynnyrch neu os yw'n cael ei adalw. Mae'n bwysig nodi nad oes angen prawf prynu arnoch chi, felly mae'n dal yn bosib cofrestru os gwnaethoch chi ei brynu'n ail-law neu ei dderbyn yn anrheg.
Gyda nwyddau gwyn trydanol domestig, fel peiriannau golchi llestri, sychwyr dillad, rhewgelloedd ac oergelloedd yn dal i fod yn gyfrifol am dros hanner yr holl danau trydanol yng Nghymru, rydyn ni'n gofyn i chi ddarllen ein hawgrymiadau diogelwch a'n cyngor isod.
Mae cynnydd mewn marwolaethau, anafiadau, a thanau dinistriol o achos beiciau trydan (e-feiciau) a sgwteri trydanol (e-sgwteri). Yn drasig, cyn pen tri mis cyntaf 2023, roedd tanau o'r batris ïonau lithiwm sy'n pweru'r dyfeisiau hyn eisoes wedi lladd pedwar o bobl yn y Deyrnas Unedig, wedi gadael eraill yn yr ysbyty neu eu hanafu'n ddifrifol ac wedi achosi difrod helaeth i eiddo. Darllenwch rai o'n hawgrymiadau diogelwch ar sut i wefru eich e-feiciau a'ch e-sgwteri'n ddiogel:
"Mae camddefnyddio offer trydanol yn achosi nifer fawr o danau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, ac mae'n hawdd y tanau yma. Gall tân mewn tŷ gael effeithiau trychinebus a hirdymor. Yn ogystal â dinistrio eiddo ac atgofion, mae'n gallu'ch rhoi chi a'ch anwyliaid mewn perygl. Rydyn ni'n annog pawb i ddilyn ein cyngor syml a fydd yn eu helpu i gadw'n ddiogel yn eu cartrefi".
Am fwy o gyngor ac awgrymiadau diogelwch er mwyn diogelu eich cartref rhag tanau a damweiniau trydanol, ewch i:
- Diogelwch trydanol - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (tancgc.gov.uk)
- Diogelwch tân e-feiciau ac e-sgwteri - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (tancgc.gov.uk)
Rachel Kestin
Communications, Engagement and Consultation Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226893
r.kestin@mawwfire.gov.uk