12 May 2025
Ddydd Mercher, 29 Ebrill, cynhaliodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Hwlffordd ac Aberdaugleddau ymarferiad hyfforddi o'r enw 'Barcud Coch', a gynhaliwyd ym Maes Awyr Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Roedd yr ymarferiad yn llwyddiant mawr – fe alluogodd y criwiau i ymarfer ymatebion achub, gan roi'r cyfle i ddatblygu a mireinio eu parodrwydd ar gyfer digwyddiadau go iawn mewn amgylchedd realistig. Roedd Maes Awyr Llwynhelyg yn lleoliad perffaith. Defnyddiodd y criwiau’r cludwr ewyn a'r tancer dŵr yn ogystal ag ymarfer Gweithdrefnau Rheoli Digwyddiadau, cyflawni achub heriol mewn maes awyr a gweithio fel rhan o dîm gan ddefnyddio gwahanol griwiau gweithredol.
Dywedodd y Rheolwr Gorsaf Aled Lewis:
"Roedd ymarferiad 'Barcud Coch' yn gyfle dysgu ardderchog i'r criwiau, gan roi hyfforddiant iddynt a oedd wedi'i gynllunio i wella parodrwydd ar gyfer senarios go iawn a chryfhau gwaith tîm. Hoffem ddiolch i 'Faes Awyr Llwynhelyg' am gael defnyddio’r lleoliad ar gyfer yr ymarferiad hwn; rhoddodd amgylchedd realistig i'r criwiau ymarfer ynddo."
Diolch i bawb a oedd yn rhan o’r ymarferiad.
Os ydych chi wedi ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, mae GTACGC yn recriwtio ar hyn o bryd ym mhob un o'n Gorsafoedd Tân Ar Alwad. Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth neu i lenwi ffurflen mynegi diddordeb.
Rachel Kestin
Communications, Engagement and Consultation Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226893
r.kestin@mawwfire.gov.uk